Community Response Manager - Wales
About You
Amdanoch chi:
Bydd gennych hanes clir ym maes cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, ynghyd ag angerdd am weithio gyda chymunedau a rhanddeiliaid allweddol i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer y fenter amgylcheddol allweddol hon.
Bydd gennych brofiad o weithio mewn rhaglenni ar y cyd a byddwch yn gweithredu ar ran y bartneriaeth i ddatblygu, arwain a chefnogi'r gwaith o gyflawni strategaethau a chynlluniau ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid.
Bydd eich portffolio yn adlewyrchu prosiectau gweithredol a rhaglenni ymgysylltu gweithredol.
Os oes gennych gefndir mewn prosiectau datblygu neu seilwaith mae hyn yn fonws.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n teimlo’n gyfforddus wrth weithio mewn rhaglen bartneriaeth a chyda phrofiad o arwain a hyrwyddo rôl ymgysylltu â rhanddeiliaid rhagorol.
Yn eich rôl ehangach, bydd gofyn i chi gymryd rhan yn ein rota 'ar alwad' gyda hyfforddiant ac ymarferion addas.
Fel siaradwr Cymraeg byddwch hefyd yn dod â sgiliau a chyfleoedd newydd i'r tîm sy'n sicrhau ein bod yn cysylltu ac yn hysbysu cymunedau a rhanddeiliaid yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Yn ei hanfod rôl hybrid yw hon, er hynny, bydd angen teithio ardraws Cymru ac weithiau i Loegr gan gynnwys i’n pencadlys yn Mansfield.
Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fodloni pob cymhwyster a ddymunir.
Os yw eich profiad yn edrych ychydig yn wahanol i'r hyn rydym wedi'i nodi a'ch bod yn meddwl y gallwch ddod â gwerth i'r rôl, byddem wrth ein bodd yn dysgu mwy amdanoch chi!
You will have an established track record in communications and stakeholder engagement, combined with a passion for working with communities and key stakeholders to deliver information and support for this key environmental initiative.
You will have experience of working in collaborative programmes and act on behalf of the partnership to develop, lead and support the delivery of stakeholder engagement and communications strategies and plans.
Your portfolio will reflect operational projects and active engagement programmes.
If you have a background in development or infrastructure projects this is a bonus.
We are looking for someone who is comfortable working in a partnership programme and with experience of leading and championing the role of excellent stakeholder engagement.
In your wider role you will be required to participate in our ‘on call’ rota with suitable training and exercise.
As a Welsh speaker you will also bring new skills and opportunities to the team that ensure we connect and inform communities and stakeholders in the most effective way.
While essentially home-based in nature this role will require a base and travel in Wales and occasional travel in England including our headquarters in Mansfield.
We don’t expect candidates to meet every single desired qualification.
If your experience looks a little different from what we've identified and you think you can bring value to the role, we'd love to learn more about you!
About The Role
Am y Rôl:
Mae 1,300 o hen fwyngloddiau metel yng Nghymru, sy’n llygru mwy na 700 cilomedr o hydau afonydd.
Mae adfer y mwyngloddiau etifeddol hyn a lliniaru eu heffaith hirdymor yn gofyn am raglen waith sylweddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Awdurdod Glo i ddarparu rhaglen genedlaethol gynaliadwy gwerth miliynau o bunnoedd, er mwyn:
• lleihau llygredd tir ac afonydd a achosir gan fwyngloddiau metel yng Nghymru
• lliniaru'r peryglon a'r risgiau a achosir gan fwyngloddiau metel
• diogelu a gwella cyflwr a gwydnwch ecosystemau
• hybu a gwella iechyd a lles • dathlu a hyrwyddo treftadaeth ac amwynder mwyngloddiau metel Cymru
• cefnogi cymunedau a rhanddeiliaid lleol
Fel Rheolwr Ymateb Cymunedol byddwch yn gweithio'n bennaf ar y Rhaglen Gwaith Metel Cymru (heb lo) (y Rhaglen), sef un o'n rhaglen partneriaeth strategol allweddol sy'n ymwneud â mwyngloddio etifeddol a gwaith adfer dŵr mwynglawdd.
Mae'r Rhaglen yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni cynlluniau ar gyfer prosiectau lliniaru llygredd a gwella'r amgylchedd, a hynny ar draws y portffolio o safleoedd cloddfeydd metel sydd wedi eu gadael yng Nghymru.
Mae hon yn rôl gydweithredol sy'n dod ag ystod o randdeiliaid a phartneriaid at ei gilydd i ganolbwyntio ar gyflawni newid a fydd yn gwella bywydau a'r amgylchedd mewn hen gymunedau mwyngloddio metel yng Nghymru.
Mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o ymyriadau adferol gan gynnwys rheoli dŵr wyneb a phentyrrau sborion, a chynlluniau goddefol a gweithredol i drin dŵr mwyngloddiau, yn aml trwy dreialu a gweithredu technolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg.
I gael mwy o wybodaeth am y rôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd sydd ynghlwm.
Amserlen:
Dyddiad cau: Ebrill 23, 2023
Dyddiad hidlo: 24 Ebrill 2023
Dyddiadau cyfweld: 26-28 Ebrill 2023 yng Nghaerdydd
There are 1,300 abandoned metal mines in Wales, polluting more than 700km of river reaches.
Remediating these legacy mines and mitigating the long term impact they have requires a substantial programme of works.
The Welsh Government are supporting Natural Resources Wales (NRW) and the Coal Authority in the delivery of a sustainable multi-million pound national programme, to:
• reduce the pollution of land and rivers from metal mines in Wales
• mitigate the hazards and risks from metal mines
• protect and improve the condition and resilience of ecosystems
• promote and enhance health and well-being • celebrate and promote the heritage and amenity of Welsh metal mines
• support local communities and stakeholders
As Community Response Manager you will be working primarily on the Welsh Metal (non-coal) Mine Programme (the Programme), which is just one of our key strategic partnership programme related to legacy mining and mine water remediation.
The Programme is responsible for the development and delivery of plans for pollution mitigation and environmental improvement projects, across the portfolio of abandoned metal mine sites in Wales.
This is a collaborative role that brings together a range of stakeholders and partners focussed on delivery of change that will improve the lives and environment in former metal mining communities in Wales.
The programme includes a variety of remedial interventions including surface water and spoil heap management, and both passive and active mine water treatment schemes, often trialling and implementing novel and emerging technologies.
For more information about the role please refer to the attached job description.
Schedule:
Closing date: 23rd April 2023
Sifting date: 24th April 2023
Interview dates: 26th-28th April 2023 in Cardiff
About The Coal Authority
Ynglŷn â'r Awdurdod Glo
Ein buddion:
- Cynllun pensiwn sy'n arwain y farchnad mae cyfradd cyfraniad ein cyflogwr tua 27%!
- Dewis o batrymau gwaith; llawn amser, rhan-amser, rhannu swydd!
- Absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir o 26 wythnos ar gyflog llawn (yn amodol ar feini prawf cymhwyso)
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
- Grwpiau Rhwydwaith Amrywiaeth
- Cynghreiriaid Iechyd Meddwl
- Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol y Gwasanaeth Sifil
- Disgowntiau i weithwyr
- Archwiliadau meddygol blynyddol
- £15 y mis tuag at les
- Oriau hyblyg i roi rhyddid i weithwyr amrywio eu horiau o gwmpas eu dewisiadau ac ymrwymiadau personol
- Lwfans gwyliau hael – 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â'r gallu i gael 6 diwrnod ychwanegol yn y system oriau hyblyg yn ogystal ag 8 o wyliau cyhoeddus
- Nawdd a chymorth i gymwysterau proffesiynol
- Telir taliadau proffesiynol
Bydd y rôl hon yn ei hanfod yn y cartref, ond bydd angen teithio’n rheolaidd ledled Cymru i gwrdd â chefnogi rheolwyr prosiect a thîm rhaglen y Mwynglawdd Metel, yn ogystal â theithio achlysurol yn Lloegr gan gynnwys i’n pencadlys yn Mansfield.
Rydym yn cynnig ffyrdd gwahanol o weithio'n hyblyg, ac mae'r mathau canlynol o hyblygrwydd fel arfer yn bosibl: rhannu swydd, oriau hyblyg, gweithio gartref am ran o'r wythnos ac oriau cywasgedig.
Mae croeso i chi siarad am yr hyn y mae hyblygrwydd yn ei olygu i chi yn eich cyfweliad.
Gydag ymrwymiad gwirioneddol i weithio hyblyg, credwn fod cydbwysedd bywyd gwaith yn hynod o bwysig.
Pwy ydym ni:
Yma yn yr Awdurdod Glo, rydym wir yn dîm gwych i weithio gyda Rydym yn unedig yn ein hangerdd a'n hymrwymiad i wneud dyfodol gwell i bobl ac i'r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol.
Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o wasanaethau hanfodol gan gynnwys ymateb i beryglon cloddio glo, a chadw pawb a phopeth yn ddiogel rhag llygredd dŵr y pyllau glo.
Rydym yn teimlo cyffro am yr hyn a ddaw yn ein dyfodol.
Mae ein gwaith yn helpu i ddatblygu ffynhonnell gynaliadwy newydd o ynni adnewyddadwy ar gyfer y DU.
Drwy harneisio'r ynni o wres dŵr y mwynglawdd, rydym yn gobeithio chwarae rôl allweddol tuag at helpu'r DU i gwrdd ag allyriadau sero-net erbyn 2050.
Rydym wir yn sefydliad cefnogol lle rydym i gyd yn byw trwy ein gwerthoedd i’r eithaf.
Rydym yn gynhwysol, wedi ennill ymddiriedaeth ac yn flaengar ym mhopeth a wnawn
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Yma yn TCA nid ydym yn unig yn derbyn gwahaniaeth – rydym yn ei ddathlu, yn ei gefnogi, ac yn ffynnu arno er budd ein gweithwyr, ein cwsmeriaid a'n cymuned.
Rydym yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cymuned gefnogol, gynhwysol, ofalgar a chadarnhaol.
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl sydd â'r sgiliau a'r profiad gofynnol, o gefndiroedd, diwylliannau, ethnigrwydd a chredoau gwahanol.
Mae amrywiaeth yn hanfodol i'n llwyddiant a'n harloesedd ac mae'n hanfodol i'n gwerthoedd o ennill ymddiriedaeth, o fod yn gynhwysol ac yn flaengar.
Rydym yn cynnig cyfweliad gwarantedig i ymgeiswyr sydd ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol sylfaenol, os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu ffurflenni cais fformat amgen gallwch gysylltu â ni trwy gysylltu â'r tîm drwy e-bost: recruitment@coal.gov.uk neu dros y ffôn ar 01623 637000.
Our benefits:
- A market leading pension scheme - our employer contribution rate is around 27%!
- A choice of working patterns; full-time, part-time, job-share!
- Adoption or shared parental leave of 26 weeks full pay (subject to qualifying criteria)
- Employee Assistance Programme
- Diversity Network Groups
- Mental Health Allies
- Civil Service Sports and Social club
- Employee discounts
- Annual medicals
- £15 per month towards wellbeing
- A recognition scheme, where you receive extra money or vouchers
- Flexi-time to give employees freedom to vary their hours around personal preferences and commitments.
- Generous holiday allowance – 27.5 days annual leave, plus the ability to flex an extra 6 days in addition to 8 public holidays
- Sponsorship and professional qualifications support
- Professional subscriptions paid
This role will essentially be home-based, but will require regular travel throughout Wales to meet and support the Metal Mine project managers and programme team, as well as occasional travel in England including to our headquarters in Mansfield.
We offer different ways to work flexibly, and the following types of flexibility are usually possible: job share, flexible hours, working from home for part of the week and compressed hours.
Please feel free to talk about what flexibility means to you at your interview.
With a genuine commitment to flexible working, we believe that work life balance is incredibly important.
Who we are:
Here at the Coal Authority, we really are a great team to work with.
We’re united in our passion and commitment to make a better future for people and the environment in mining areas.
We carry out a wide variety of essential services from responding to coal mining hazards, to keeping everyone and everything safe from mine water pollution.
We are excited about what our future holds.
Our work is helping to develop a new sustainable source of renewable energy for the UK.
By harnessing the energy from mine water heat, we hope to play a key role towards helping the UK to meet net-zero emissions by 2050.
We truly are a supportive organisation where we all live and breathe our values.
We are inclusive, trusted and progressive in everything that we do
Equality, Diversity and Inclusion:
Here at TCA we don’t just accept difference – we celebrate it, support it, and thrive on it for the benefit of our colleagues, our customers and our communities.
We are proud to be an inclusive employer.
We are committed to developing a supportive, inclusive, caring and positive community.
We encourage applications from people from different backgrounds, identities, cultures and beliefs.
Diversity is vital to our success and innovation and is fundamental to our values of being trusted, inclusive and progressive.
As part of our commitment to increasing the diversity of our workforce, we provide a guaranteed interview to applicants who meet the minimum selection criteria who are disabled or from a minority ethnic community.
If you require any reasonable adjustments or alternative format application forms you can get in touch with us by contacting the team by email at recruitment@coal.gov.uk or by phone on 01623 637000.
- Start: 05/04/2023
- Rate: £35,763 - £37,998
- Location: Wales,Wales
- Type: Permanent
- Industry: PR
- Recruiter: The Coal Authority
- Contact: Admin The Coal Authority
- Tel: 01623 637149
- Email: to view click here
- Reference: 0103
- Posted: 2023-04-05 16:38:15 -
- View all Jobs from The Coal Authority
More Jobs from The Coal Authority
- Senior Hydrogeologist
- Assistant Planning & Development Manager
- Civil Engineer
- Head of Corporate Programme Office
- Data Innovation Manager
- Procurement Business Partner - Fixed Term Contract
- Sustainable Procurement Business Partner - 16 Month Fixed Term Contract
- Community Response Manager - Wales
- Assistant Health, Safety & Wellbeing (HSW) Advisor
- Regional Project Manager South Yorkshire and North West
- Project Manager - NEC Projects
- Principal Business Analyst
- Senior Business Analyst
- Business Analyst
- Operations Manager
- Assistant Property and Estates Manager
- Data Improvement Officer
- Senior Hydrogeologist Mine Heat
- Business Planning Manager
- Programme Lead (Coal)